top of page

Gwahoddiad

Feb 9
1 min read

Dewch i ddathlu pen-blwydd y Gymdeithas Hanes! Mae croeso cynnes i bawb.

Mae’n 80 mlynedd eleni ers sefydlu Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. Pan gynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas yn 1946, fe ddadorchuddiwyd llechen ar “garreg Wesley” yn Neuadd y Farchnad, Llanidloes, i gofio am deithiau John Wesley drwy Gymru. Y neuadd eiconig hon yw’r unig enghraifft sydd wedi goroesi yng Nghymru o neuadd marchnad ffrâm bren.



LLUN GAN EIRIAN EVANS

Dyddiad a digwyddiadau’r dathlu

Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod yn Llanidloes ar 16 Mai.

Am 1pm byddwn yn dod ynghyd ger y gofeb wrth Neuadd y Farchnad ar gyfer gwasanaeth byr.

Yna symud ymlaen i Gapel y Bedyddwyr a chael adloniant gan gorau a band lleol. Hefyd fe gawn baned – rydym yn ddiolchgar iawn i gyfeillion y capel am eu parodrwydd i’n croesawu.

Yn dilyn hynny, edrychwn ymlaen at ddarlith gan yr hanesydd Dr Eryn White.

I gloi’r diwrnod, bwriadwrn gael pryd o fwyd gyda’n gilydd.

Trefniadau teithio

Gobeithio y daw llawer o gyfeillion ynghyd o bell ac agos. Beth amdani? Trefnwyd bws bach a fydd yn cychwyn o Gaernarfon ar hyd yr A470. I archebu lle ar y bws, cysylltwch yn ddi-oed â Robin Jones 01248 670140/07780 869907 – cyntaf i’r felin…!

Rhowch wybod os gwelwch yn dda faint sy’n gallu dod o’ch ardal chi, er mwyn hwyluso’r gwaith trefnu.

 
 

Recent Posts

See All
Gweddi dros ein Diffoddwyr Tân

Dduw’r cread cyfan, Rydym yn gweld effeithiau newid hinsawdd – maen nhw wedi eu gosod allan o’n blaenau. Mae ein nentydd, ein hafonydd a’n camlesi yn sych. Mae’r caeau yn felyn a chrin yn lle bod yn g

 
 
Ffarwél a diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd

Cafwyd prynhawn bythgofiadwy yn Eglwys Fethodistaidd Sant Paul, Aberystwyth, yn diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd a ffarwelio â hi wrth iddi ‘eistedd i lawr’ ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd Talaith Sy

 
 

© 2024 Wales Synod Cymru

Cynlluniwyd gyda balchder gan

Polisi Preifatrwydd Ni chesglir unrhyw ddata personol drwy ein gwefan. Rhoddwyd caniatâd penodol i gyhoeddi pob rhif ffôn / cyfeiriad e-bost sydd i’w weld yma. I weld ein polisi preifatrwydd llawn sy’n egluro sut mae’r Synod fel Ymddiriedolwyr Rheolaethol yn rheoli data dilynwch y ddolen hon.

bottom of page