Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Croeso i wefan
Wales Synod Cymru
Mae Wales Synod Cymru ryn cynrychioli gwaith a thystiolaeth yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. Rydym ni’n cynnwys rhyw 216 o eglwysi a chapeli sydd yn addoli ac yn tystiolaethu yn y ddwy iaith mewn 16 Cylchdaith ar hyd a lled Cymru.
Mae’r wefan hon wedi ei chynllunio i roi i chi gyflwyniad i bobl allweddol ym mywyd y Synod, gwybodaeth am y ffordd mae’r Synod yn gweithio, digwyddiadau yn Nyddiadur y Synod, eitemau o newyddion ac o ddiddordeb ym mywyd y Synod, a chopïau o Bolisïau’r Synod a Chofnodion ei chyfarfodydd.
Mae Wales Synod Cymru yn rhan hefyd o Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr sydd y gweithio ar hyd a lled Lloegr, Yr Alban a Chymru. Er mwyn ymweld â phrif wefan yr Eglwys Fethodistaidd, cliciwch yma.
Mae Wales Synod Cymru yn falch o gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Fferm Amelia ym Mro Morgannwg. Er mwyn dod o hyd i wefan y Fferm, cliciwch yma.
O Dduw ein Creawdwr,
fel y glöwr yn cloddio dan ddaear a’r chwarelwr yn naddu wyneb y llechen, rwyt ti ar waith i ddarganfod trysor mewn mannau annisgwyl. Boed i ni gynhyrchu rhywbeth hardd i ti, hyd yn oed o’r tywyllwch a’r oerni, fel y dygom ogoniant i’th enw ac er mwyn dyfodiad dy Deyrnas.
Amen.
Jennifer Hurd
District Chair, Wales Synod Cymru
O God our Creator,
like the collier digging underground and the quarryman chiselling the face of the slate, you are at work to discover treasure in unexpected places. May we produce something beautiful for you, even from the darkness and the coldness, that we may bring glory to your name and for the sake of the coming of your kingdom.
Amen.
Jennifer Hurd
District Chair, Wales Synod Cymru