top of page
Satelite image of Wales from above

Cylchdaith Cymru (2/1)

Arolygydd

Rev Ddr Ian Morris

revdrian@btconnect.com

07707 494348 / 01792 882381

​

Ardaloedd Cylchdaith Cymru a’u Harweinyddion

​

Bathafarn

Mrs Elizabeth Jones

01978 790260 / 07740 542051

​

Ceredigion a Meirionnydd

I’w benodi

 

Glannau Maelor; Dyffryn Conwy; Dyffryn Clwyd

Y Parchedig Marc Morgan

01978 756717  cwrteden@gmail.com

​

Llanrhaeadr

Y Parchedig Gwyndaf Richards

01938 820266  gwyndaf50@btinternet.com

​

Gwynedd a Môn

Y Parchedig Ddr Ian Morris

01792 882381 revdrian@btconnect.com

​

Morgannwg

Y Parchedig Ddr Ian Morris

01792 882381 revdrian@btconnect.com

​

Powys

Y Parchedig Euron Hughes

01678 540545 

parcheuronhughes@gmail.com

Disgrifiad

Sut y gall Cylchdaith gwmpasu gwlad gyfan? Cwestiwn digon teg! Er mai un Gylchdaith ydym, dan ofal un Arolygydd a chyda rhyw 45 o gapeli lle’r addolir bron yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg, mae ein cenhadaeth yn cael ei hyrwyddo hefyd gan arweinwyr mwy lleol mewn naw o wahanol Ardaloedd yng Nghymru.

​

Yn y flwyddyn 2009 y cyfunwyd y cylchdeithiau Cymraeg blaenorol i ffurfio Cylchdaith Cymru, ond beth am ein gwreiddiau a’n hanes fel rhan Gymraeg o’r Eglwys Fethodistaidd? Yn 1739 y pregethodd John Wesley yng Nghymru am y tro cyntaf ac fe ddychwelodd yma lawer gwaith, er mai ar siaradwyr Saesneg y dylanwadodd yn bennaf gan na fedrai’r Gymraeg. Ymhen blynyddoedd wedyn, yn 1800, trwy berswâd Thomas Coke, arweinydd y mudiad cenhadol Wesleaidd, penderfynodd y Gynhadledd Fethodistaidd Wesleaidd Brydeinig anfon cenhadon Cymraeg eu hiaith i Gymru. Dyna sut y dechreuodd, ac y tyfodd ymhen amser, y gwaith Wesleaidd yn ein mamiaith.

​

Gwelwyd llawer tro ar fyd ers hynny, wrth gwrs, ac mae’n ffaith ei bod yn adeg heriol arnom fel Cylchdaith. Serch hynny, parhawn i chwarae ein rhan ym mywyd yr Eglwys Fethodistaidd trwy ein haddoliad a thrwy Ysgolion Sul (dwy newydd wedi eu sefydlu yn lled ddiweddar); trwy fudiad Merched Methodistaidd yng ngwledydd Prydain; trwy ein cefnogaeth frwd i elusen Gweithredu dros Blant, ymhlith pethau eraill.

bottom of page