Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Cylchdaith Fethodistaidd Conwy a Phrestatyn (2/12)
Gweinidogion
Y Parchedig Janet Park - revjanetp@gmail.com
Y Parchedig Nigel Rodgers - nigelrodgers.rev@gmail.com
Y Diacon Linda Brown - deaconlindabrown@gmail.com
​
Swyddfa’r Gylchdaith
Hayley James (swyddog gweinyddol) cpmcoffice2@gmail.com
​
Gwefan y Gylchdaith
​
Tudalen Facebook
Disgrifiad
Mae Cylchdaith Fethodistaidd Conwy a Phrestatyn yn cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n ymestyn am ryw 22 milltir ar hyd arfordir hyfryd y Gogledd. Mae wyth eglwys weithredol yma, o Gonwy yn y gorllewin i Brestatyn yn y pen dwyreiniol. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Gylchdaith ac Ysgol Fethodistaidd Rydal Penrhos ym Mae Colwyn, a hefyd rhyngom ni a Chartref Coed Craig ac Adlington House sy’n cael eu rhedeg gan MHA. Er bod yr ardal hon yn eithaf Seisnigedig, mae yma hefyd Fethodistiaid sydd yn addoli yn Gymraeg ac sydd yn aelodau yng Nghylchdaith Cymru.
​
Mae trefi glan môr Llandudno, Bae Colwyn a Phrestatyn i gyd o fewn y Gylchdaith ac mae Rhuddlan a Chonwy wrth gwrs yn enwog am eu cestyll mawreddog.
​
Ceir yma olygfeydd trawiadol iawn, o Eryri i’r Gogarth yn Llandudno – lle daeth y geifr Kashmiri yn fyd-enwog. Mae llefydd da i seiclo yn yr ardal a gellir rhodianna ar hyd promenadau’r trefi glan môr. Mae’n braf mynd i lawr i ambell harbwr ac i erddi diddorol hefyd yn y cyffiniau. Mae llawer o wybodaeth am yr atyniadau i’w gweld yn www.gonorthwales.co.uk/
​
Yn yr un modd ag y cynigir amrywiol weithgareddau yn yr ardal hon, mae eglwysi ein cylchdaith hefyd yn cynnig gwahanol ddigwyddiadau ac oedfaon y bydd croeso mawr i chi ymuno ynddynt. Mae oedfaon bob wythnos ym mhob rhan o’r gylchdaith, yn ogystal â grwpiau gweddi ac astudiaethau Beiblaidd. Rydym yn cynnal LlanLlanast, myfyrdod a gwasanaethau iacháu, yn ogystal â boreau coffi rheolaidd a gweithgareddau eraill i bawb gymryd rhan ynddynt.
Ewch i’n gwefan i gael manylion am beth sy’n cael ei gynnig.