top of page
Chepstow Bridge

Cylchdaith Fethodistaidd Casnewydd a Gwy Isaf (2/19)

Disgrifiad

Mae gan Gylchdaith Casnewydd a Gwy Isaf 13 eglwys a 18 adeilad. O’i mewn mae trefi marchad Casgwent, Trefynwy a Chil-y-coed, gyda chapeli hefyd mewn mannau gwledig yng nghanol y gylchdaith ac ar y ffin â Swydd Henffordd yn y gogledd; yng nghymunedau’r cymoedd ym Mhont-y-cymer a Rhisga yn y gorllewin; yn ogystal â thair eglwys hefyd yn ninas Casnewydd.

 

Arweinir gwaith y Gylchdaith gan yr Arolygydd a thri Gweinidog arall, gyda chymorth tîm gweithgar iawn o bregethwyr lleol, swyddogion ac uwchrifiaid. Mae’r gylchdaith yn gwneud llawer o bethau i ddangos cariad Duw yn y cymunedau, trwy gynnig gwahanol arddulliau addoli fel Traddodiadol, LlanLlanast, Gwasanaethau Mawl, Capel Caffi ac arwain gwasanaethau ysgol, yn ogystal â helpu’r gymuned gyda chiniawau, banciau bwyd, mannau cynnes, cysgodfeydd nos a llawer o weithgareddau eraill lle mae croeso i bawb.

bottom of page