Cofio Aberfan.
Y mis hwn byddwn yn cofio ei bod yn 60 mlynedd ers trychineb Aberfan. Dyma feddyliau’r Parchedig Gareth Hill wrth inni gyrraedd y garreg filltir hon.
“Wedi bod yn myfyrio y penwythnos hwn ar ddechrau mis cofio 60 mlwyddiant y drychineb yn Aberfan. Bore dydd Sadwrn aeth Joy a finnau i ymweld â’r pentref gyda Llywydd ac Is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd, y Parchg Mark Slaney a Caroline Stead. Adroddwyd hanes tad Joy sef y Parchg Irving Penberthy, a fu’n gefn i’r teuluoedd ar ôl trychineb 1966.
Braint oedd clywed David Davies, un o’r plant a achubwyd, yn rhannu ei atgofion am y 116 o blant a’r 28 oedolyn a fu farw pan lithrodd mynydd o wastraff glofaol i lawr a chladdu ysgol y pentref.
Bydd sylw pawb yn cael ei hoelio ar Aberfan yn ystod y mis hwn yn enwedig pan ddeuwn yn nes at Hydref 21, dyddiad y drychineb.
Diolch yn fawr i Gadeirydd Methodist Cymru, Andrew Charlesworth, am ein cynnwys ni yn yr ymweliad.”






