Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Gwyliedydd
Am Gwyliedydd
Gobeithio y bydd cynnwys rhifynnau’r Gwyliedydd (ôl-rifynnau a rhai newydd) ar y wefan newydd yma o fudd i ddarllenwyr hen a newydd. Dechreusom trwy uwchlwytho’r holl rifynnau oedd gennym wedi eu cadw ar ffurf pdf, o Awst/Medi 2014 tan y presennol. Yn awr bwriedir ychwanegu rhifynnau newydd wrth eu cyhoeddi.
Mae’r Gwyliedydd wedi goroesi trwy lawer o anawsterau ers ei sefydlu fel papur newydd yn 1877: llawenydd mawr yw ei weld yn parhau a datblygu. Bu trobwynt yn ei hanes yn 1987 pan wnaed ef yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur dan weledigaeth (a thrwy ysbrydoliaeth) Owain Owain, a’i bywiogodd drwyddo. Bellach mae’r Gwyliedydd yn parhau i fod yn gyhoeddiad Cymraeg ond yn perthyn i Synod ddwyieithog. Rydym hefyd yn falch o natur ecwmenaidd y cyfnodolyn, gyda chyfranwyr o sawl traddodiad eglwysig a chylchrediad y tu hwnt i’r Eglwys Fethodistaidd. Cynhwysir rhai eitemau yn arbennig i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, yn ogystal â rhywbeth bob tro i’r plant. Gobeithio’n fawr y bydd pawb yn parhau i ddarllen, ar bapur ac ar sgrin, gan gofio geiriau John Wesley a ddywedodd fod ymroi i ddarllen yn arwain at dwf mewn gras.
Gwyliedydd
Cliciwch ar eitem isod i'w darllen
(yn agor PDF mewn tab newydd)