Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales


Cylchdaith Fethodistaidd y Trallwng a Bro Hafren (2/24)
Arolygydd
Y Parchedig Keith Edwards
Cyswllt
Wefan
Disgrifiad
Croeso cynnes i Gylchdaith Fethodistaidd y Trallwng a Bro Hafren. Rydym yn dilyn dysgeidiaeth y Beibl ac mae gennym 6 o gapeli sy’n anelu i rannu Newyddion Da yr Efengyl wrth inni ddod ynghyd i gynnal oedfaon a byw ein bywydau gartref, yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae ein gwasanaethau yn agored i bawb – a phleser o’r mwyaf fyddai croesawu pawb ohonoch sy’n dod heibio ar ymweliad, sydd wedi ymsefydlu yn yr ardal neu sydd wedi symud yma yn ddiweddar.
Mae’r Gylchdaith yn cwmpasu ardal wledig, brydferth ac amrywiol, sy’n ymestyn o’r Trallwng ym mhen gogledd-ddwyreiniol y gylchdaith, i Drefeglwys yn y de. Cynorthwyir ein harolygydd, y Parchedig Keith Edwards, gan bregethwyr lleyg ac arweinyddion addoliad cydnabyddedig, ynghyd â gweinidogion sydd wedi ymddeol a phregethwyr eraill sy’n ymweld o bryd i’w gilydd. Cynhelir addoliad yn rheolaidd ym mhob un o 6 chapel y gylchdaith.
Os ydych yn Gristion o argyhoeddiad, neu efallai yn dal i chwilio am atebion, dewch i ymuno â ni wrth inni geisio dysgu mwy am beth mae caru a gwasanaethu Iesu Grist o ddydd i ddydd yn ei olygu.