Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Pwyllgorau
Pwyllgor Polisi’r Synod
Mae Pwyllgor Polisi’r Synod yn cyfarfod 3 gwaith y flwyddyn i adolygu gwaith y Synod, penderfynu ar bolisïau a goruchwylio rhoi’r rheini ar waith, gan weithredu hefyd fel Ymddiriedolwyr y Synod.
Mae cynrychiolwyr o bob cylchdaith ar y Pwyllgor. Gellir gweld cofnodion y cyfarfodydd a’r polisïau y cytunwyd arnynt yma.
​
Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi’r Synod
Pwyllgor Cynlluniau a Grantiau’r Synod
Mae Pwyllgor Cynlluniau a Grantiau’r Synod yn delio â cheisiadau am grantiau o Gronfa Gynnydd y Synod, ar gyfer cynlluniau gweinidogaeth ac eiddo.
Derbynnir ceisiadau drwy’r flwyddyn ac, er mai dwywaith y flwyddyn yn unig y bydd y Pwyllgor yn cyfarfod wyneb yn wyneb, bydd yr aelodau’n cysylltu â’i gilydd yn rheolaidd er mwyn prosesu ceisiadau’n electronig.
​
Ysgrifennydd Cynlluniau a Grantiau
Pwyllgor Mansys
Mae’r Pwyllgor Mansys yn cyfarfod unwaith y flwyddyn (ym mis Mai fel rheol) er mwyn sicrhau bod holl fansys y Synod yn cael eu harchwilio’n rheolaidd, gan roi cyngor pan fydd angen gwaith pellach i ofalu eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol.
​
Ysgrifennydd Mansys
Pwyllgor Gweinidogion ar Brawf
Mae’r Pwyllgor Gweinidogion ar Brawf yn cyfarfod unwaith y flwyddyn (ddechrau Mawrth fel rheol) i oruchwylio’r rhai sy’n dechrau eu gweinidogaeth yn y Synod ac i sicrhau bod rhaglen gefnogi yn cael ei chynnig drwy gydol y flwyddyn.
​
Ysgrifennydd Gweinidogion ar Brawf
Momentwm (Gwaith Ieuenctid)
Mae Momentwm yn cyfarfod yn rheolaidd i gynllunio gwaith ieuenctid ledled y Synod, annog pobl ifanc i fynychu digwyddiadau Cyfundebol a threfnu’r Fforwm Ieuenctid sy’n cyfarfod yr un pryd â’r Synod. Mae gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynllunio i’w gweld ar Dudalen yr Ifanc.
​
Cydlynydd Grŵp Gweithredol Gwaith Ieuenctid