top of page

Bathafarn Bach

Am Bathafarn Bach

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru yn 1946. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y Gymdeithas y gyfrol gyntaf o gylchgrawn newydd dan y teitl Bathafarn. Mae’r teitl yn cyfeirio at enw cartref Edward Jones, gerllaw Rhuthun.

 

Chwaraeodd Edward Jones rôl ganolog fel cenhadwr ymysg y Cymry Cymraeg ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd 32 o gyfrolau o Bathafarn rhwng 1946 a 2003. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o erthyglau pwysig am hanes Methodistiaeth yng Nghymru, yn Gymraeg yn bennaf ond gyda rhai cyfraniadau yn Saesneg hefyd. Maent i gyd wedi’u digido gan y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’r cynllun ‘Cylchgronau Cymru Ar-lein’.

​

Ers 2011 mae’r Gymdeithas Hanes wedi cyhoeddi erthyglau am hanes mewn cylchgrawn newydd, Bathafarn Bach. Gallwch ddarllen rhifynnau 1-10 o’r cylchgrawn ar y wefan hon.

 

Yn y blynyddoedd diweddar, penderfynodd y Gymdeithas gyhoeddi Bathafarn Bach o fewn tudalennau’r Gwyliedydd a dyna lle mae’r ddau rifyn nesaf, 11 a 12, i’w cael (Gwyliedydd 239 a 244, Rhag-Ion 22-23 a Hyd-Tach 23).

Bathafarn Bach

Cliciwch ar eitem isod i'w darllen
(yn agor PDF mewn tab newydd)

bottom of page