Gweddi dros ein Diffoddwyr Tân
- Aug 13
- 1 min read
Dduw’r cread cyfan,
Rydym yn gweld effeithiau newid hinsawdd – maen nhw wedi eu gosod allan o’n blaenau. Mae ein nentydd, ein hafonydd a’n camlesi yn sych. Mae’r caeau yn felyn a chrin yn lle bod yn glytwaith glas.
Gweddïwn dros bawb sy’n dioddef effeithiau’r tanau gwyllt sy’n llosgi ar draws ein tiroedd.
Gweddïwn dros bawb y mae ac y bydd eu bywoliaeth yn dioddef.
A gweddïwn dros bawb sy’n byw mewn ofn am fod y fflamau yn agosáu at eu cartrefi a’u cymunedau.
Gweddïwn yn arbennig dros ein diffoddwyr tân sy’n parhau i frwydro er mwyn cadw’r tanau dan reolaeth er eu bod wedi ymlâdd.
Y diffoddwyr tân sy’n gweld drostynt eu hunain y difrod i fywyd gwyllt ond sydd, er gwaethaf popeth, yn parhau i weithio ddydd a nos yn eu timau.
Dduw’r cread cyfan, clyw ein gweddi. Clyw ein gweddi a chynnal bawb sy’n byw a gweithio dan yr amgylchiadau hyn.
Yn enw Iesu Grist. Amen.
Ysgrifennwyd gan y Parchedig Catherine Lewis, Presbyter Methodist Cymru, y mae ei gŵr yn ddiffoddwr tân gweithredol yn Ne-ddwyrain Cymru.


