Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales

Dyddiadau Pwysig
Dyddiadau Pwysig
1738
Troedigaeth John Wesley yn Llundain.
1739
Dechreuodd Wesley bregethu yn yr awyr agored.
Ymweliad cenhadol cyntaf John Wesley â Chymru..
1791
Marwolaeth John Wesley.
1799
Dychwelodd Edward Jones adref i Bathafarn, Rhuthun yn dilyn ei droedigaeth ym Manceinion a llogodd ystafell ar gyfer cyfarfodydd Methodistaidd.
1800
Derbyniodd y Gynhadledd Fethodistaidd Wesleaidd Brydeinig gynnig Thomas Coke i anfon cenhadon Cymraeg i Gymru. Anfonwyd Owen Davies a John Hughes. Ychwanegwyd John Bryan ac Edward John yn fuan wedyn.
1804
Crëwyd Talaith Cymru gyda 1709 o aelodau.
1809
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Yr Eurgrawn Wesleyaidd, cylchgrawn misol seiliedig ar The Methodist Magazine, a lansiwyd dan y teitl The Arminian Magazine gan John Wesley yn 1778.
Sefydlwyd Llyfrfa fel swyddfa cyhoeddi yn Nolgellau. Symudwyd nes ymlaen i Lanfair Caereinion a Llanidloes cyn symud i Fangor yn 1859. Darparwyd adeilad pwrpasol iddi ym Mangor yn 1887.
1829
Crëwyd dwy Dalaith – Talaith y Gogledd a Thalaith y Deheudir – gyda chyfanswm o 7947 o aelodau.
1831
Cododd anghytundeb ymysg y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg, gyda rhai yn gadael a ffurfio mudiad a elwid y Wesle Bach. Ymunodd â’r Wesleyan Methodist Association yn 1837.
1859
Dechreuodd diwygiad yn Nhre’r Ddôl dan arweiniad y pregethwr Wesleaidd Humphrey Jones. Dan ddylanwad y diwygiad cododd cyfanswm aelodaeth y Wesleaid Cymraeg o 13,447 yn 1859 i 16,832 yn 1861.
1877
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Gwyliedydd, papur wythnosol a gyfer y Methodistiaid Wesleaidd.
1899
Crëwyd y Gymanfa Gymreig. Cwrddodd yn flynyddol ac roedd yn gyfrifol am waith y Taleithiau Cymraeg ac am ordeinio gweinidogion Cymraeg. Roedd y Gymanfa yn atebol i’r Gynhadledd Brydeinig.
1904
Crëwyd tair Talaith – Talaith Gyntaf y Gogledd, Ail Dalaith y Gogledd, a Thalaith y Deheudir – gyda chyfanswm o 22,078 o aelodau.
1905
Cofnodwyd cyfanswm o 26,108 o aelodau, y ffigur uchaf erioed, diau oherwydd effaith Diwygiad 1904-05.
1925
Cofnodwyd cyfanswm o 25,119 o aelodau, ond gwelwyd lleihad cyson yn yr aelodaeth o hynny ymlaen.
1946
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes a chyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o’r cychgrawn Bathafarn dan olygiaeth A. H. Williams.
1965
Caewyd y Llyfrfa oherwydd pwysau ariannol.
1974
Crëwyd un Dalaith gyda 10,774 o aelodau. Daeth y Gymanfa Gymreig i ben.
1983
Cyhoeddwyd rhifyn olaf Yr Eurgrawn. Ymunodd yr enwad gydag enwadau eraill i gyhoeddi’r cylchgrawn cyd-enwadol Cristion.
1987
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o fersiwn newydd o’r Gwyliedydd dan olygiaeth Owain Owain. Dechreuodd fel misolyn ond erbyn hyn mae’n ymddangos yn ddau-fisol.
1988
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o fersiwn newydd o’r Gwyliedydd dan olygiaeth Owain Owain. Dechreuodd fel misolyn ond erbyn hyn mae’n ymddangos yn ddau-fisol.
2001
Cyhoeddwyd y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd. Mae’r llyfr wedi gwneud llawer i ddod â’r enwadau nes at ei gilydd.
2022
Mae Synod Cymru a Wales Synod yn uno i greu Wales Synod Cymru dwyiethog.