Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Cylchdaith Fethodistaidd Bryniau a Chymoedd Gwent (2/13)
Arolygydd
Y Parchedig Catherine Brobbey
Disgrifiad
Mae Cylchdaith Bryniau a Chymoedd Gwent yn cynnwys rhai o’r mannau prydferthaf yng Nghymru. Mae’n cwmpasu Bannau Brycheiniog, Glyn Ebwy a Sirhywi a’r wlad braf i’r de i’r Gelli Gandryll, tref enwog y llyfrau.
O fewn y Gylchdaith hon mae ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle bu pyllau glo a gweithfeydd dur, yn ogystal â threfi newydd o’r 50au a’r 60au ac ardaloedd gwledig, trefi marchnad a phentrefi. Mae pedwar gweinidog llawn-amser yn gwasanaethu’r ddwy eglwys ar hugain sydd yn y Gylchdaith, gyda chymorth tîm medrus o uwchrifiaid, swyddog gweinyddol a gwirfoddolwyr lleyg.
Addoli yw canolbwynt popeth a wnawn. Rydym yn galluogi pobl i ddod ynghyd i addoli ym mhob un o’n heglwysi bob Sul a hefyd ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o’n heglwysi yn cynnal grwpiau ar gyfer gweddi, cymdeithas ac astudiaeth Feiblaidd yn ystod yr wythnos.
Mae eglwysi’r Gylchdaith yn ceisio adlewyrchu cariad Duw yn eu cymunedau trwy agor eu drysau i grwpiau lleol a chynnal boreau coffi a digwyddiadau eraill yn y gymuned.
O fewn y Gylchdaith mae gennym gymuned fywiog o bobl o Tonga ac fe gefnogir rhaglen Gwaith Maes Rygbi sy’n cael ei threfnu gan gyn-chwaraewyr rygbi o Tonga er mwyn mentora pobl ifanc yn y gêm a hefyd yn y ffydd.
Mae un o eglwysi’r Gylchdaith yn rhedeg caffi cymunedol ac yn darparu lle ar gyfer ‘Tasty not Wasty’, Cwmni Budd Cymunedol sy’n gweithio er mwyn lleihau gwastraff bwyd a lliniaru tlodi bwyd.
Mae’r Gylchdaith yn falch o gefnogi Love Zimbabwe, elusen sy’n hyrwyddo byw cynaliadwy, datblygiad cymunedol a masnach deg trwy ei gwaith yng Nghanolfan Gymunedol Chinamhora yn Domboshawa, Zimbabwe.
Mae nifer o’n heglwysi yn gweithio tuag at fod yn Eco Eglwysi ac mae un eglwys wedi datblygu gardd gymunedol i dyfu a rhannu cynnyrch.
Rydym yn croesawu ymwelwyr yn ein holl eglwysi ac yn gobeithio y byddant yn teimlo’n gartrefol yng Nghylchdaith Bryniau a Chymoedd Gwent.