top of page
Three Images: Statue of "Our Lady of Penrhys" (Left), Disued Mining Wheel (Centre), Statue of Griffith Rhys Jones, Aberdare

Cenhadaeth Morgannwg Ganol (2/16)

Arolygydd

Y Parchedig Malcolm Peacock.

​

Ebost

rev.m.peacock@gmail.com

​

Gwefan y Gylchdaith

www.mgmmethodist.org.uk/

​

Rhif Ffôn

07946 142291

Disgrifiad

Mae Cenhadaeth Morgannwg Ganol yn cwmpasu Cymoedd Rhondda, Cynon a Rhymni. Ychydig o bobl oedd yn byw yma hyd nes agorwyd y pyllau glo, er bod nifer sylweddol o bererinion yn teithio drwy’r fro. Gyda thwf y boblogaeth yn Oes Fictoria daeth canu yn boblogaidd a magwyd cantorion dawnus yma gyda chorau o’r ardal yn ennill yn genedlaethol. Mae hoffter o ganu yn parhau i fod yn rhan o fywyd ein heglwysi. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Gylchdaith wedi gweld yr un math o ddirywiad ag sydd wedi effeithio ar lawer o gymunedau’r cymoedd ac fe gaewyd nifer o eglwysi. Cawn ein hysbrydoli o weld y Cymoedd yn ymadfer a dod yn fwy gwyrdd – mae nerth creadigol a chynhaliol Duw ar waith ac rydym yn credu y bydd Duw yn dod ag adnewyddiad a bywyd newyd i’w Eglwys. Wrth inni ddisgwyl wrth Dduw, rydym yn gwasanaethu ein cymunedau hyd eithaf ein gallu, gan ddiwallu angen lle bo modd a bod yn fannau sy’n dathlu presenoldeb Duw ac yn cynnig croeso i bawb.

bottom of page