top of page
Principality Stadium as seen from the River Taff, Cardiff

Cylchdaith Fethodistaidd Caerdydd (2/9)

Arolygydd

Y Parchedig Cathy Gale

​

Ebost Swyddfa

office@cardiffmethodist.org.uk

 

Gwefan y Gylchdaith

cardiffmethodist.org.uk

​

Tudalen Facebook y Gylchdaith

Link

Disgrifiad

Mae 14 o eglwysi yng Nghylchdaith Fethodistaidd Caerdydd, yn y brifddinas ei hun ac yn ardaloedd Ffynnon Taf a Chaerffili.

 

Mae gennym 6 Gweinidog, 3 yn gweithio’n llawn-amser i’r Gylchdaith, un yn rhan-amser yn y Gylchdaith ac yn gwneud gwaith arloesi mewn mannau lle ceir datblygiadau newydd ar gyrion Caerdydd, ynghyd ag un Gweinidog rhan-amser a Diacon.

​

O fewn y Gylchdaith hefyd mae gennym Ganolfan y Drindod, sy’n gwneud gwaith arbennig iawn yn y ddinas gan wasanaethu ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac eraill sydd mewn angen yn y gymuned leol. Yng Nghanolfan y Drindod hefyd y mae’r Gynulleidfa Wrdw/Hindi yn cyfarfod, gan addoli yno ar yr ail a’r pedwerydd Sul yn y mis. Ar y foment mae’r holl waith gwych hwn yn cael ei gynnal mewn mannau eraill tra bo gwaith adeiladu mawr yn cael ei wneud ar y Ganolfan, fel y bydd yn y dyfodol yn adnodd gwell fyth i’r Gymuned.

​

Yn ogystal â nifer o gorau yn y capeli, mae gennym hefyd Gôr Cymunedol Methodistaidd Caerdydd sydd â chantorion o amryw o gapeli a rhai nad ydynt yn perthyn i eglwys. Maent yn canu cerddoriaeth amrywiol iawn, yn emynau hwyliog, pop a roc, gan weithio er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnder mewn cymdeithas sy’n atal dyfodiad Teyrnas Dduw. Byddant yn perfformio y tu allan i’r Gylchdaith hefyd yn rheolaidd, gan deithio’r wlad.

​

Mae ein heglwysi’n amrywio o ran maint ac arddull addoli, gan gynnig oedfa foreol, Ysgol Sul, Brecwast Ieuenctid, astudiaethau Beiblaidd gyda’r nos i’r Gylchdaith, LlanLlanast, Eglwys Lego, Eglwys Wyllt, Cymundeb yn yr wythnos, boreau coffi, astudiaethau Grawys ac Adfent a llawer, llawer mwy.

​

Rydych yn siŵr o gael hyd i rywbeth i chi yng Nghylchdaith Caerdydd – cysylltwch â ni i gael gwybodaeth bellach.

​

office@cardiffmethodist.org.uk

www.cardiffmethodist.org.uk

bottom of page