Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Hanes
Hanes Byr
Cafodd John Wesley brofiad o droedigaeth yn 1738 a dechreuodd bregethu yn yr awyr agored yn 1739. O hynny ymlaen tan ei farwolaeth yn 1791 gweithiodd i hyrwyddo adfywiad o fewn Eglwys Loegr, sef yr Eglwys sefydledig yn Lloegr a Chymru ar y pryd. Pregethodd yng Nghymru am y tro cyntaf yn 1739 ar wahoddiad y Methodist Calfinaidd Howell Harris. Wedi hynny deuai i Gymru’n gyson, gan fynd trwy’r wlad yn aml ar ei ffordd i Iwerddon lle roedd hefyd yn weithgar. Nid oedd John Wesley yn siarad Cymraeg a felly ar siaradwyr Saesneg yn bennaf oedd ganddo ddylanwad. Erbyn ei farwolaeth roedd dim on tua 600 o’i ddilynwyr yng Nghymru.
Yn y dechrau roedd John Wesley yn fodlon gadael y gwaith ymysg y Cymry Cymraeg i Harris. Beth bynnag, pwysleisiodd Wesley fod iachawdwriaeth yn cael ei chynnig i bawb sy’n ymateb i wahoddiad Duw. Roedd hyn yn wahanol i gred Harris ac arweinwyr eraill y Methodistiaid Calfinaidd. Oherwydd hyn daeth yn fwyfwy anodd i’r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd gydweithio.
Er i Wesley drwy ei oes fwriadu i’w ddilynwyr barhau yn fudiad adfywiol o fewn Eglwys Loegr, daeth ymwahanu yn anochel a digwyddodd hyn yn fuan ar ôl ei farwolaeth. Yn 1800, trwy berswâd Thomas Coke, arweinydd y mudiad cenhadol Wesleaidd a brodor o Aberhonddu, anfonodd y Gynhadledd Fethodistaidd Wesleaidd Brydeinig genhadon Cymraeg eu hiaith i Gymru. Dyma ddechreuad swyddogol i Fethodistiaeth Wesleaidd yn yr iaith Gymraeg a dyfodd drwy gydol y 19eg ganrif i gyfanswm o dros 20,000 o aelodau. Sefydlodd y Methodistiaid Wesleaidd hefyd, fel yr enwadau anghydffurfiol eraill, gynulleidfaoedd a chapeli Cymraeg yn y dinasoedd hynny yn Lloegr lle roedd nifer sylweddol o’r Cymry wedi symud i weithio.
Yn 1899 sefydlwyd Y Gymanfa Gymreig a oedd yna atebol yn unig i’r Gynhadledd Brydeinig. Yn 1904 trefnwyd y gwaith Cymraeg mewn tair Talaith yn cynnwys yr holl gapeli Cymraeg yng Nghymru a Lloegr. Erbyn 1925 roedd cyfanswm o dros 25,000 o aelodau yn y Taleithiau. Yn 1974, fodd bynnag, o achos lleihad yn nifer yr aelodau, daeth y tair Talaith at ei gilydd yn un a dyma yw’r drefn heddiw.
Darllen ymhellach
​
Dyma’r prif lyfrau ar hanes y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg. Yn anffodus, maent i gyd allan o brint erbyn hyn, ond mae’n bosibl i ddarganfod copïau mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau ail law, ac ar y rhyngrwyd.
Edwards, Eric. Yr Eglwys Fethodistaidd: Hanes Ystadegol (1980, atodiad 1987).
Llyfr defnyddiol iawn sy’n llawn ffeithiau ac ystadegau.
​
Jones, Hugh, gol. Hanes Wesleyaeth Gymreig (4 cyfrol, 1911-13).
Cyfrolau swmpus sy’n arbennig o ddefnyddiol am hanes cynnar yr achosion a chapel Cymraeg.
​
Madden, Lionel, gol. Methodism in Wales: A Short History of the Wesley Tradition (2003). Mae’n cynnwys penodau, gyda llawer o luniau, ar hanes Methodistiaeth Gymraeg a Saesneg, penseirnïaeth capeli, llenyddiaeth ac emynau, pregethu a phregethwyr, a chyfraniad cymdeithasol y Methodistiaid.
​
Vickers, John A., gol. A Dictionary of Methodism in Britain and Ireland (2000).
Ffynhonnell wybodaeth hanfodol. Mae ar gael hefyd fel gwefan sy’n cael ei diweddaru’n gyson www.wesleyhistoricalsociety.org.uk/dmbi/index
​
Williams, A. H., gol. John Wesley in Wales 1739-1790 (1971).
Casgliad o’r rhannau hynny mewn dyddlyfr a dyddiadur Wesley sy’n cofnodi ei ymweliadau â Chymru, gyda nodiadau defnyddiol gan y golygydd.
​
Williams, A. H. Welsh Wesleyan Methodism 1800-1858 (1935).
Hanes meistrolgar o’r blynyddoedd cynnar.
​
Young, David. The Origin and History of Methodism in Wales and the Borders (1893).
Mae’n adrodd hanes y Methodistiaid Wesleaidd ym mhob sir yng Nghymru yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
​
Yn ychwanegol at yr uchod ceir llawer o erthyglau hanesyddol, yn arbennig yng nghyfrolau’r cylchgrawn Bathafarn a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Hanes rhwng 1946 a 2003. Mae Bathafarn i gyd wedi’i digido gan y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’r cynllun ‘Cylchgronau Cymru Ar-lein’. Ers 2011 mae’r Gymdeithas Hanes wedi cyhoeddi erthyglau am hanes mewn cylchgrawn newydd, Bathafarn Bach. Gallwch ddarllen pob rhifyn o’r cylchgrawn ar y wefan hon. Mae Proceedings of the Wesley Historical Society, a gyhoeddwyd ers 1897, a Bulletin of WHS in Wales, a gyhoeddwyd ers 2011, hefyd yn cynnwys rhai erthyglau perthnasol.