top of page

Eco Eglwysi yn perswadio Cyngor Caerdydd i Gymeradwyo Cytundeb i Ddiweddu Oes Tanwydd Ffosil

  • 2 days ago
  • 2 min read

Ar nos Iau 26 Mawrth fe benderfynodd Cyngor Caerdydd trwy fwyafrif 53-8 gymeradwyo'r alwad fyd-eang am Gytundeb Atal Amlhau Tanwydd Ffosil, cam arwyddocaol sydd â'r nod o ddileu tanwydd ffosil yn raddol ledled y byd. Dyma Caerdydd felly yn ymuno â chlymblaid ryngwladol gynyddol o ddinasoedd, sefydliadau, seneddau a llywodraethau cenedlaethol sy'n cefnogi'r cytundeb. Maent yn cynnwys Llundain, Caeredin a Birmingham, 45 o aelodau seneddau’r DU, Senedd Ewrop, a 18 o wledydd fel Colombia a Phacistan.

Tanwydd ffosil yw'r prif ysgogydd newid hinsawdd o hyd, gan gyfrif am oddeutu 86% o allyriadau carbon deuocsid dros y degawd diwethaf, yn ôl yr IPCC. Mae'r Asiantaeth Ynni Ryngwladol hefyd wedi datgan bod ehangu cynhyrchu tanwydd ffosil yn anghydnaws â chyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C.

Roedd gan y cynnig, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Llafur Bethan Proctor, gefnogaeth gan grwpiau lleol gan gynnwys Eglwysi Eco Caerdydd a Climate Cymru a’r mudiad cenedlaethol, Global Justice Now. Mae Eglwysi Eco Caerdydd yn rhwydwaith eciwmenaidd o eglwysi lleol sydd wedi ymrwymo i stiwardiaeth amgylcheddol a chyfiawnder hinsawdd trwy gynllun EcoEglwys Arocha UK. Mae'r grŵp yn gweld y cytundeb fel cyfle i Gymru ddangos arweinyddiaeth hinsawdd a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy a chyfartal.

Trwy ei fabwysiadu, mae Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo yn ffurfiol amcanion craidd y Cytundeb Atal Amlhau Tanwydd Ffosil:

●     Sicrhau trawsnewidiad byd-eang cyfiawn oddi wrth tanwydd ffosil, gan sicrhau nad oes unrhyw weithiwr, cymuned na gwlad yn cael eu gadael ar ôl

●     Atal datblygiadau glo, olew a nwy newydd

●     Sicrhau dileu cynhyrchu tanwydd ffosil yn raddol ac yn deg

Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, gan eu hannog i gymeradwyo'r cytundeb fel rhan o'i hymrwymiadau hinsawdd rhyngwladol.



 
 

© 2024 Wales Synod Cymru

Cynlluniwyd gyda balchder gan

Polisi Preifatrwydd Ni chesglir unrhyw ddata personol drwy ein gwefan. Rhoddwyd caniatâd penodol i gyhoeddi pob rhif ffôn / cyfeiriad e-bost sydd i’w weld yma. I weld ein polisi preifatrwydd llawn sy’n egluro sut mae’r Synod fel Ymddiriedolwyr Rheolaethol yn rheoli data dilynwch y ddolen hon.

bottom of page