top of page

Llywydd ac Is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd yn ymweld â Gogledd Cymru.

  • Jun 4
  • 2 min read

Dyma’r Parchedig Richard Andrew a Mr Matthew Forsyth yn dweud yr hanes -

"Buom yn ymweld â gwahanol Daleithiau yn ystod ein hamser fel Llywydd ac Is-lywydd gan ddiweddu gydag ymweliad â Synod Cymru Wales.


Roedd yr ymweliad hwn yn gyforiog o chwedl a chân, ieithoedd, ffydd a gobaith.

I ddechrau, buom yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yr ŵyl ieuenctid deithiol fwyaf yn Ewrop, sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, diwylliant a chreadigrwydd mewn ffordd mor fendigedig. Braf iawn oedd gweld yr eglwysi trwy Cytûn yn dod at ei gilydd i gynnig presenoldeb hyfryd, croesawus fel rhan o fywiogrwydd ac ysbryd yr Eisteddfod. Braint hefyd oedd cael cwrdd â Cherry Vann, Archesgob Cymru.

Yna aethom i ymweld â Drws Agored yng nghapel Shiloh Newydd, Tregarth, sydd yn amlygu croeso, cymuned a ffydd mewn ffordd mor brydferth.


Draw wedyn i Landudno a chael cyfle i ymweld ag Eglwys Fethodistaidd St John’s. Fe wnaethom ni fynd yr holl ffordd i dop y meindwr, hyd yn oed. Ar hyn o bryd mae wrthi’n cael ei atgyweirio. Yna cymryd rhan mewn sesiwn yn trafod ffydd a gwleidyddiaeth.


Hefyd yn ystod yr ymweliad buom yn ‘Beyond Belief’ sef addoliad yn yr awyr agored a drefnwyd gan Gylchdaith Bangor a Chaergybi gyda phawb yn dod at ei gilydd yn yr awyr iach i addoli, myfyrio a chael ein hatgoffa unwaith eto fod Duw bob amser yn ein galw i fynd allan y tu hwnt i’r muriau ac i’r byd i gyd. Rhaid cyfaddef fod ambell gi poeth a Smore wedi cael eu bwyta…

Cawsom ein bendithio eleni drwy letygarwch y Taleithiau ac yn sicr nid yw Synod Cymru Wales yn eithriad yn hyn o beth. Diolch yn fawr."


The President and Vice President enjoying the Urdd Eisteddfod
The President and Vice President enjoying the Urdd Eisteddfod

The President and Vice President of Conference with the Archbishop of Wales
The President and Vice President of Conference with the Archbishop of Wales

The President and Vice President of Conference with Wales Synod Cymru Chairs outside Shiloh Newydd.
The President and Vice President of Conference with Wales Synod Cymru Chairs outside Shiloh Newydd.
The President and Vice President of Conference admiring the view from the roof of St John's Methodist Church, Llandudno.
The President and Vice President of Conference admiring the view from the roof of St John's Methodist Church, Llandudno.
The President and Vice President of Conference sharing in a faith and politics session.
The President and Vice President of Conference sharing in a faith and politics session.

The President and Vice President of the Methodist Conference being interviewed by Cynan Llwyd, Secretary of Cytun (Churches together in Wales).
The President and Vice President of the Methodist Conference being interviewed by Cynan Llwyd, Secretary of Cytun (Churches together in Wales).


 
 

Recent Posts

See All
Gweddi dros ein Diffoddwyr Tân

Dduw’r cread cyfan, Rydym yn gweld effeithiau newid hinsawdd – maen nhw wedi eu gosod allan o’n blaenau. Mae ein nentydd, ein hafonydd a’n camlesi yn sych. Mae’r caeau yn felyn a chrin yn lle bod yn g

 
 
Ffarwél a diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd

Cafwyd prynhawn bythgofiadwy yn Eglwys Fethodistaidd Sant Paul, Aberystwyth, yn diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd a ffarwelio â hi wrth iddi ‘eistedd i lawr’ ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd Talaith Sy

 
 

© 2024 Wales Synod Cymru

Cynlluniwyd gyda balchder gan

Polisi Preifatrwydd Ni chesglir unrhyw ddata personol drwy ein gwefan. Rhoddwyd caniatâd penodol i gyhoeddi pob rhif ffôn / cyfeiriad e-bost sydd i’w weld yma. I weld ein polisi preifatrwydd llawn sy’n egluro sut mae’r Synod fel Ymddiriedolwyr Rheolaethol yn rheoli data dilynwch y ddolen hon.

bottom of page