top of page

Gwobrau Cymuned Gristnogol Bacistanaidd Prydain (BPCC)

Feb 9
1 min read

Cyflwynwyd gwobr i’r Parchedig Irfan John, Galluogwr ein Synod ar gyfer Cynulleidfaoedd gyda Diwylliannau Amrywiol, yng Ngala Gwobrau Cymuned Gristnogol Bacistanaidd Prydain (BPCC) y DU 2025, a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2025. Mae'r wobr hon yn cydnabod ei wasanaeth a'i weinidogaeth ymroddedig fel gweinidog Methodistaidd, a'i ymrwymiad a’i arweiniad dros lawer o flynyddoedd.

 

Pan dderbyniodd y wobr, soniwyd yn arbennig am waith y Parchedig Irfan John o fewn cymunedau sydd â diwylliannau amrywiol drwy'r Eglwys Fethodistaidd, yn ogystal â’r holl bethau arbennig a gyflawnodd gan gynnwys Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o genhedloedd mewn Drama Geni. Mae'r ffaith iddo gyflawni cymaint yn dangos pa mor angerddol ydyw dros ddod â phobl ynghyd trwy ffydd, gwasanaeth, a chydymdrech.

 

Mae Gwobrau Cymuned Gristnogol Bacistanaidd Prydain (BPCC) y DU yn dathlu unigolion sydd wedi newid pethau er gwell, ac mae'n arbennig o braf fod y Parchedig Irfan John wedi cael ei gydnabod gan ei gymuned ei hun o Gristnogion Pacistanaidd o bob cwr o'r DU fel unigolyn sydd wedi cyffwrdd yn

arbennig â bywydau llawer o’i gyd-genedl.


 
 

Recent Posts

See All
Gweddi dros ein Diffoddwyr Tân

Dduw’r cread cyfan, Rydym yn gweld effeithiau newid hinsawdd – maen nhw wedi eu gosod allan o’n blaenau. Mae ein nentydd, ein hafonydd a’n camlesi yn sych. Mae’r caeau yn felyn a chrin yn lle bod yn g

 
 
Ffarwél a diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd

Cafwyd prynhawn bythgofiadwy yn Eglwys Fethodistaidd Sant Paul, Aberystwyth, yn diolch i’r Parchg Ddr Jennie Hurd a ffarwelio â hi wrth iddi ‘eistedd i lawr’ ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd Talaith Sy

 
 

© 2024 Wales Synod Cymru

Cynlluniwyd gyda balchder gan

Polisi Preifatrwydd Ni chesglir unrhyw ddata personol drwy ein gwefan. Rhoddwyd caniatâd penodol i gyhoeddi pob rhif ffôn / cyfeiriad e-bost sydd i’w weld yma. I weld ein polisi preifatrwydd llawn sy’n egluro sut mae’r Synod fel Ymddiriedolwyr Rheolaethol yn rheoli data dilynwch y ddolen hon.

bottom of page