Gwobr Aur Eco-Eglwys i’r Eglwys sy’n Uno, Y Barri
- office85413
- 4 days ago
- 4 min read
Mae’r Eglwys sy’n Uno yn y Barri yn falch iawn o fod wedi ennill Gwobr Aur Eco-Eglwys. Dyma’r 4edd Eglwys i ennill y wobr hon yng Nghymru a’r 83ydd yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Eglwys sy’n Uno yn bartneriaeth ecwmenaidd leol a sefydlwyd yn 2012 rhwng cynulleidfaoedd Eglwys Ddiwygiedig Unedig Heol Windsor ac Eglwys Fethodistaidd Heol Porthceri.
Yn 2021, agorodd yr eglwys ganolfan ‘The Bridge Between’ yng Nglannau’r Barri, at ddefnydd yr eglwys a’r gymuned. Rhoddwyd pwyslais mawr ar gynaliadwyedd wrth ddatblygu’r adeilad hwn sydd yn cynnig lle deniadol a hygyrch ar gyfer gweithgareddau cymunedol ac eglwysig.
Rheolir y ganolfan gan aelodau’r eglwys mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Bro Morgannwg sydd wedi’u lleoli yn yr adeilad. Rhai o’r prif atyniadau yw’r Ardd Gymunedol braf a gafodd wobr Baner Werdd; cyfleuster Changing Places sydd â chyfarpar heb ei ail ar gyfer defnyddwyr ag anableddau lluosog; a Chaffi Cymunedol poblogaidd Lana, sy’n cael ei redeg gan Bobl yn Gyntaf ac sydd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10 a 2 o’r gloch.
Cynllun cydenwadol, cenedlaethol yw Eco-Eglwys ar gyfer gwobrwyo eglwysi ledled Cymru a Lloegr am ymdrechion amgylcheddol. Mae’n cael ei redeg gan A Rocha UK ac yn helpu eglwysi i greu cyswllt rhwng materion yn ymwneud â’r amgylchedd a’u ffydd Gristnogol, fel y byddant yn ymateb trwy wneud pethau ymarferol yn yr eglwys, ym mywydau pobl, ac yn y gymuned yn lleol ac yn fyd-eang.
Meddai’r Parchedig Paul Martin, gweinidog yr Eglwys sy’n Uno yn y Barri: “Rydym wrth ein boddau o dderbyn y wobr hon. Mae’n rhoi cadarnhad inni yn ein taith barhaus tuag at geisio gofalu’n dda am greadigaeth Duw. Rydym yn ddiolchgar am y bobl y mae eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.”
Ac meddai Zoe Mouti, Cydlynydd Gwasanaethau Pobl yn Gyntaf Bro Morgannwg:
“Mae llwyddiant yr Eglwys sy’n Uno yn y Barri wrth iddynt ennill Gwobr Aur Eco-Eglwys yn dystiolaeth o’u hymrwymiad i gynaliadwyedd a chyfoethogi’r gymuned. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymroddiad yr eglwys i ofalu’n gyfrifol am yr amgylchedd gan ymdrechu ar yr un pryd i ddarparu man cynhwysol lle bydd pawb yn cael ei gefnogi.
“Mae’r bartneriaeth rhwng Pobl yn Gyntaf a’r Eglwys sy’n Uno wedi bod yn allweddol wrth greu cyfleoedd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu. Mae dau weithgaredd arbennig y dylid eu crybwyll.
“Un yw Caffi Cymunedol Lana, sydd yn fwy na dim ond caffi – mae'n fan cyfarfod croesawus lle gall unigolion gael profiad gwaith gwerthfawr, datblygu sgiliau hanfodol, a magu hyder mewn amgylchedd cefnogol. Mae cyfleusterau cwbl hygyrch y caffi yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u gallu, yn cael cymryd rhan a ffynnu. Y llall yw Grŵp Bluebell sydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i oedolion ag anableddau dysgu dwys a lluosog, drwy gynnig man arbennig ar gyfer ymgysylltu synhwyraidd. Mae lle newid cwbl hygyrch ar gael fel y bydd unigolion yn gallu bod yn gyfforddus wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan wybod bod darpariaeth lawn wedi’i gwneud ar gyfer eu hanghenion. Mae’r fenter hon yn arwydd o ymrwymiad yr eglwys i fod yn gynhwysol a helpu i rymuso unigolion trwy gyfrwng profiadau ystyrlon.
“Mae ymdrechion yr Eglwys sy’n Uno yn y Barri yn enghraifft dda o’r modd y gall mudiadau ffydd beri newid er gwell, nid yn unig trwy ofalu am yr amgylchedd ond hefyd trwy feithrin cymuned lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi. Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio gael effaith barhaol.”
Dyma a ddywedodd Elin Burgess, Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus:
“Llongyfarchiadau enfawr i’r Eglwys sy’n Uno yn y Barri ar ennill Gwobr Aur Eco-Eglwys! Rydym wrth ein boddau o glywed am y gydnabyddiaeth anhygoel a haeddiannol hon. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf ar wahanol brosiectau, o sefydlu gardd gymunedol er mwyn tyfu bwyd a’n cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac wedyn eu cefnogi ar eu taith i ennill Baner Werdd. Mae eu hangerdd a’u hymrwymiad yn wirioneddol ysbrydoledig, a gobeithio’n fawr y bydd eu stori yn fodd i annog eraill i ddilyn yn ôl eu traed.”
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
1. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Rosie James, e-bost Rosie@homeinbarry.co.uk neu e-bostiwch Ganolfan The Bridge Between: thebridgebetweenbarry@gmail.com
2. Elusen Gristnogol unigryw yw A Rocha UK sydd â’r nod o warchod natur ac annog Cristnogion ac eglwysi i ofalu am fyd natur. Maent yn rhedeg gweithgareddau cadwraethol yn eu gwarchodfeydd eu hunain ac yn cynghori rhwydwaith o bartneriaid ym myd cadwraeth, ledled y DU; maent yn galluogi ac ysbrydoli Cristnogion i fwynhau, meithrin a gwarchod natur; ac maent yn rhedeg cynlluniau Eco-Eglwys a chynlluniau eraill perthnasol ymhlith enwadau. Ewch i arocha.org.uk
3. Cynllun gwobrwyo ar-lein yw Eco-Eglwys sydd yn rhad ac am ddim, ar gyfer eglwysi o bob enwad yng Nghymru a Lloegr, ac a lansiwyd gan A Rocha UK yn 2016. Mae menter Eco-Eglwys yn helpu eglwysi i gysylltu materion amgylcheddol â’u ffydd Gristnogol ac i ymateb trwy weithredu’n ymarferol yn yr eglwys, ym mywydau pobl ac yn y gymuned leol a byd-eang. Mae gwobrau i’w cael ar dair lefel (Efydd, Arian ac Aur) ac edrychir ar sut y ceisir cofio am yr amgylchedd mewn pum maes allweddol o fywyd eglwysig: addoli ac addysgu, adeiladau ac ynni, tir a natur, ymgysylltu â’r gymuned ac yn fyd-eang, a ffordd o fyw. Mae Eco-Eglwys yn helpu eglwysi amrywiol iawn o bob traddodiad, ar hyd eu taith yn gofalu am yr amgylchedd – o wneud tir eglwys yn lle da ar gyfer bywyd gwyllt i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, o wneud moli Duw am y greadigaeth yn rhan o addoliad i godi llais er mwyn cael llywodraethau i weithredu. Mae’r cynllun yn tyfu’n gyflym, gyda thros 8,300 o eglwysi wedi cofrestru a thros 4,300 wedi ennill dyfarniad. Ewch i ecochurch.arocha.org.uk
4. I gael gwybodaeth bellach am Bobl yn Gyntaf Bro Morgannwg, cysylltwch â Zoe Mouti, e-bost zoevpf@gmail.com
5. I gael gwybodaeth bellach am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru, ewch i www.keepwalestidy.cymru/greenflag