Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales

Gwyliedydd
Am Gwyliedydd
Gobeithio y bydd cynnwys rhifynnau’r Gwyliedydd (ôl-rifynnau a rhai newydd) ar y wefan newydd yma o fudd i ddarllenwyr hen a newydd. Dechreusom trwy uwchlwytho’r holl rifynnau oedd gennym wedi eu cadw ar ffurf pdf, o Awst/Medi 2014 tan y presennol. Yn awr bwriedir ychwanegu rhifynnau newydd wrth eu cyhoeddi.
Mae’r Gwyliedydd wedi goroesi trwy lawer o anawsterau ers ei sefydlu fel papur newydd yn 1877: llawenydd mawr yw ei weld yn parhau a datblygu. Bu trobwynt yn ei hanes yn 1987 pan wnaed ef yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur dan weledigaeth (a thrwy ysbrydoliaeth) Owain Owain, a’i bywiogodd drwyddo. Bellach mae’r Gwyliedydd yn parhau i fod yn gyhoeddiad Cymraeg ond yn perthyn i Synod ddwyieithog. Rydym hefyd yn falch o natur ecwmenaidd y cyfnodolyn, gyda chyfranwyr o sawl traddodiad eglwysig a chylchrediad y tu hwnt i’r Eglwys Fethodistaidd. Cynhwysir rhai eitemau yn arbennig i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, yn ogystal â rhywbeth bob tro i’r plant. Gobeithio’n fawr y bydd pawb yn parhau i ddarllen, ar bapur ac ar sgrin, gan gofio geiriau John Wesley a ddywedodd fod ymroi i ddarllen yn arwain at dwf mewn gras.
Gwyliedydd
Cliciwch ar eitem isod i'w darllen
(yn agor PDF mewn tab newydd)
Rhif / Number | Dyddiad / Date |
|---|---|
235 | Ebrill - Mai 2022 |
234 | Chwefror - Mawrth 2022 |
233 | Rhagfyr 2021 - Ionawr 2022 |
232 | Hydref - Tachwedd 2021 |
231 | Awst - Medi 2021 |
230 | Mehefin - Gorffennaf 2021 |
229 | Ebrill - Mai 2021 |
228 | Chwefror - Mawrth 2021 |
227 | Rhagfyr 2020 - Ionawr 2021 |
226 | Hydref - Tachwedd 2020 |
225 | Awst - Medi 2020 |
224 | Ebrill - Mai 2020 |